Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

Constitutional and Legislative Affairs Committee

                                                                                                       

           

 

Gwahoddiad i gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig i ymchwiliad pwyllgor

Mawrth 2014

 

 

 

 

 

 

 

                                          

Annwyl Gyfaill

 

Ymchwiliad i anghymhwyso person rhag bod yn Aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru

 

1.           Mae’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol wedi cytuno i gynnal ymchwiliad i anghymhwyso person rhag bod yn Aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

 

2.           Cylch gorchwyl yr ymchwiliad yw trafod:

 

-        yr egwyddorion sy’n sail i’r swyddi a’r mathau o gyflogaeth sy’n anghymwyso person rhag bod yn aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru a nodir yng Ngorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Anghymhwyso) 2010 a, cyhyd ag y bo modd, argymell rhestr newydd o swyddi a mathau o gyflogaeth sy’n anghymwyso;

-        yr amser pryd y daw anghymwysiadau i rym;

-        a ddylai’r Cyfrin Gyngor lunio Gorchmynion Anghymhwyso yn ddwyieithog; ac

-        unrhyw faterion eraill sy’n ymwneud ag anghymhwyso person rhag bod yn Aelod o’r Cynulliad.

 

Mae Gorchymyn 2010 ar gael ar wefan Llyfrfa Ei Mawrhydi yma.

 

3.           Mae’r Pwyllgor yn cynnal yr ymchwiliad yn dilyn cais gan y Prif Weinidog. Bydd adroddiad y Pwyllgor yn llywio trafodaeth Llywodraeth Cymru ynghylch cynnwys Gorchymyn Anghymhwyso Cynulliad Cenedlaethol Cymru, y bydd angen penderfynu arno cyn etholiad nesaf y Cynulliad ym mis Mai 2016.

 

4.           Mae’r Prif Weinidog wedi darparu memorandwm ar gyfer ymchwiliad y Pwyllgor. Mae’n rhoi gwybodaeth gefndir am anghymhwyso person rhag bod yn Aelod o’r Cynulliad ac mae wedi’i gynnwys yn Atodiad 1 i’r llythyr hwn.

 

5.           Byddai’r Pwyllgor yn croesawu eich sylwadau ar y cwestiynau a restrir yn Atodiad 2.

 

6.           Dylid anfon ymatebion, ar ffurf electronig neu gopi caled, i’r cyfeiriad isod, gan sicrhau eu bod yn cyrraedd erbyn 28 Ebrill 2014 fan bellaf:

 

Gareth Williams

Clerc

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Bae Caerdydd

CF99 1NA

 

E-bost: PwyllgorMCD@cymru.gov.uk

 

7.           Mae canllawiau ar gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig ar gael yn Atodiad 3 i’r llythyr hwn.

 

8.           Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Chlerc y Pwyllgor, ar 029 2089 8008 neu Ruth Hatton, y Dirprwy Glerc, ar 029 2089 8019.

 

Yn gywir

 

David Melding AC

Cadeirydd
Atodiad 1

 

Ymchwiliad i anghymwysiadau rhag bod yn aelod o’r Cynulliad: Memorandwm gan Lywodraeth Cymru

 

Yn dilyn gwahoddiad y Prif Weinidog ym mis Ionawr 2014, mae Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol y Cynulliad (‘CLAC’) wedi cytuno i gynnal  ymchwiliad i faterion sy’n ymwneud ag anghymwysiadau rhag bod yn aelod o’r  Cynulliad. Fel rhan o’r broses graffu, mae wedi gofyn i Lywodraeth Cymru gyflwyno Memorandwm a fyddai’n ei gynorthwyo i ystyried y materion hyn.

Roedd Llywodraeth Cymru’n falch o ddysgu bod CLAC wedi cytuno i gynnal yr ymchwiliad hwn ac rydym yn gobeithio y bydd yr ymchwiliad yn helpu i wella a symleiddio’r rheolau sy’n ymwneud ag anghymwysiadau rhag bod yn aelod o’r Cynulliad. Credwn fod y mater hwn yn berthnasol i’r Cynulliad cyfan, ac mae CLAC felly mewn sefyllfa dda i helpu i greu consensws trawsbleidiol eang ar y materion hyn. Mae’r ymchwiliad yn cynnig cyfle hefyd i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd o’r materion pwysig hyn sy’n effeithio’n uniongyrchol ar y ffordd y mae Cymru’n cael ei llywodraethu.

I gynorthwyo gwaith craffu’r Pwyllgor, mae’r memorandwm hwn yn nodi ystyriaeth  Llywodraeth Cymru o’r materion hyn a seilir ar ein profiad o weithredu’r rheolau hyn.

Mae tair rhan i’r memorandwm – yn gyntaf rydym yn ystyried y fframwaith cyd-destunol ar gyfer anghymwysiadau; wedyn rydym yn troi at fater cynnwys y Gorchymyn Anghymhwyso; ac yn olaf rydym yn trafod y materion ategol sy’n berthnasol i anghymwysiadau ond nad yw Llywodraeth Cymru’n gorfod ymdrin â hwy’n uniongyrchol fel rhan o’i gylch gwaith.

Y Cyd-destun

Yn gyffredinol, mae cyfyngiadau ar aelodaeth yn un o nodweddion sylfaenol deddfwrfeydd etholedig. Er bod angen rhai cyfyngiadau, maent yn gyfyngiad ar hawliau democrataidd pobl.  Ym marn Llywodraeth Cymru, felly, rhaid gallu cyfiawnhau’n gryf y rhesymeg y tu ôl i anghymhwyso pobl rhag bod yn aelod o’r Cynulliad, a dylem gyfyngu eithriadau i’r lleiaf posibl.

Mae rhai amodau ar gyfer y DU gyfan y mae rhaid i ddarpar ymgeisydd gydymffurfio â hwy er mwyn gallu sefyll mewn etholiadau i unrhyw un o ddeddfwrfeydd y DU. Er enghraifft, rhaid i’r person fod o leiaf 18 oed a bod yn ddinesydd Prydeinig, yn ddinesydd cymwys o’r Gymanwlad neu’n ddinesydd unrhyw aelod-wladwriaeth yn yr Undeb Ewropeaidd.

Yn benodol mewn perthynas ag etholiadau’r Cynulliad, rhaid i ddarpar ymgeisydd, heblaw bodloni’r amodau uchod ar gyfer sefyll mewn etholiad, beidio â chael ei anghymhwyso rhag sefyll fel y nodir yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006. 

Mae Adran 16 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 yn nodi nifer o bersonau nad ydynt yn cael bod yn aelodau o’r Cynulliad. Yn ogystal, mae’n darparu i Orchymyn yn y Cyfrin Gyngor (“Gorchymyn Anghymhwyso”) ddynodi swyddi a mathau pellach o gyflogaeth bellach, lle byddai’r deiliaid y swyddi a’r mathau hynny o gyflogaeth hefyd yn cael eu hanghymhwyso rhag bod yn aelodau o’r Cynulliad. Ceir swyddi hefyd a benodir gan y Cynulliad (er enghraifft, aelodau’r Bwrdd Cydnabyddiaeth Ariannol Annibynnol a’r Comisiynydd Safonau) lle mae’r ddeddfwriaeth sy’n eu sefydlu’n gwahardd ACau rhag cael eu penodi i’r swyddi ac yn gwahardd deiliaid swyddi rhag sefyll mewn etholiadau.

Cynnwys y Gorchymyn Anghymhwyso

Rhaid i Orchymyn Anghymhwyso gael ei osod ar ffurf ddrafft gerbron y Cynulliad a chael ei gymeradwyo gan benderfyniad y Cynulliad cyn i argymhelliad gael ei wneud i’w Mawrhydi yn Ei Chyngor fod y Gorchymyn yn cael ei wneud. O safbwynt eu cynnwys, mae Gorchmynion Anghymhwyso’r Cynulliad yn y gorffennol wedi ceisio taro cydbwysedd rhwng caniatáu i gynifer o ddinasyddion â phosibl sefyll mewn etholiadau, tra’n amddiffyn y ddeddfwrfa rhag dylanwad gormodol gan ddeiliaid swyddi a delir gan y Llywodraeth, amddiffyn y pwrs cyhoeddus trwy  osgoi gwrthdrawiad buddiannau, ac amddiffyn didueddrwydd rhai cyrff rhag amlygu tuedd wleidyddol.

Felly, mae Gorchmynion blaenorol wedi anelu at anghymhwyso:

 

Roedd yr egwyddorion hyn yn sail ar gyfer y swyddi neu’r gyflogaeth sy’n peri anghymhwysiad a gynhwysir yn y Gorchymyn Anghymhwyso blaenorol. Er hynny, mae swyddogion Llywodraeth Cymru wedi adolygu arferion blaenorol mewn perthynas â chynnwys Gorchymyn Anghymhwyso a thynnu sylw at y materion canlynol:

Cododd rhagflaenydd CLAC, y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol (‘CAC’), bryderon hefyd pan ystyriodd y Gorchymyn Anghymhwyso diwethaf ar ffurf ddrafft, cyn i’r Cynulliad roi ystyriaeth iddo.  Nododd CAC wahaniaethau rhwng triniaeth cyrff a gafodd eu dwyn ymlaen o’r  rhestr flaenorol a’r rhai a gafodd eu hychwanegu am y tro cyntaf at y rhestr.

Byddai o fudd felly i CLAC edrych o’r newydd ar yr egwyddorion sy’n sail i’r swyddi a’r gyflogaeth sy’n peri anghymhwysiad a gynhwysir yn y Gorchymyn Anghymhwyso blaenorol, cynnig egwyddorion fel y bo’n briodol, cyn belled â phosibl, argymell rhestr newydd o swyddi a chyflogaeth sy’n peri anghymhwysiad a allai gael eu cynnwys wedyn yn y Gorchymyn Anghymhwyso nesaf. Hoffem i’r Gorchymyn fod mor glir a hygyrch â phosibl, a hefyd hoffem ddileu unrhyw gymhlethdod diangen.

Materion Ategol

Mae ystyriaethau eraill sy’n ategol i’r Gorchymyn Anghymhwyso. Er mai offeryn statudol a fydd yn gymwys ledled y DU fydd y Gorchymyn Anghymhwyso, fel mater o egwyddor, credwn y dylai’r Gorchymyn gael ei wneud yn Gymraeg a Saesneg.

Mater arall i’w ystyried yw pryd y daw’r anghymwysiadau i rym. Gan mai’r Cynulliad sy’n gyfrifol am gymeradwyo’r Gorchymyn Anghymhwyso ar ffurf ddrafft, mater i’r Ysgrifennydd Gwladol, gyda chymeradwyaeth y Senedd, yw gwneud y Gorchymyn yn nodi’r rheolau ar gyfer cynnal Etholiadau’r Cynulliad. Mae’r Gorchymyn hwn yn cynnwys gofynion sy’n ymwneud â gweithdrefnau enwebu. Fel y mae materion ar hyn o bryd, byddai angen i berson sy’n dal swydd sy’n ei anghymhwyso ar yr adeg y mae’n gorfod cydsynio i gael ei enwebu ymddiswyddo o’r swydd honno cyn cydsynio, fel arall byddai’n euog o arfer lygredig yn unol â Gorchymyn mwyaf diweddar, sef Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2007 (fel y’i diwygiwyd gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) (Diwygio) 2010.

Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru’n gwneud y Gorchymyn perthnasol yn ymdrin â’r agwedd hon wrth arfer y pwerau a roddir iddo gan adran 13 o Ddeddf 2006 ac felly ni fydd gan  Lywodraeth Cymru unrhyw ddylanwad uniongyrchol drosto. Er hynny, gwelwn fod y gofynion presennol yn ddatgymhelliad clir i ymgeiswyr am fod rhaid i berson ymddiswyddo o’i swydd neu ei gyflogaeth er mwyn sefyll fel ymgeisydd ac, os bydd yn aflwyddiannus yn yr etholiad hwnnw, byddai ei ailgyflogi’n dibynnu ar delerau ac amodau cyflogaeth sy’n gymwys. Yn ein barn ni felly byddai o fantais i’r Pwyllgor hefyd ystyried y mater hwn.

Casgliad

Yn ein barn ni nid yw’r strwythurau presennol ar gyfer eithrio personau rhag bod yn aelodau o’r Cynulliad yn adlewyrchu eu raison d’être yn iawn. Bwriad yr anghymwysiadau yw atal ACau rhag dal swyddi neu gyflogaeth y bernir eu bod yn ymyrryd â chyflawni eu dyletswyddau’n briodol. Ond yn ein barn ni mae’r rheolau sy’n ymwneud ag  anghymwysiadau’n fwyfwy anaddas at eu diben i’r graddau eu bod, mewn rhai achosion, yn ddatgymhelliad i ddarpar ymgeiswyr a thrwy hynny’n anghydnaws ag egwyddor grymuso  cyfranogiad democrataidd.

Am y rhesymau hyn, rydym yn awyddus i weld sut y gellir newid y rheolau a’r egwyddorion sy’n sail i anghymhwyso er mwyn gwella cyfranogiad ymgeiswyr tra’n cadw ymddiriedaeth a hyder y cyhoedd yn y ffordd y mae Etholiadau’r Cynulliad yn cael eu cynnal. Mae Llywodraeth Cymru’n edrych ymlaen at ganlyniad ymchwiliad CLAC. Gallai ffrwyth yr ymchwiliad hwn lywio cynnwys Gorchymyn Anghymhwyso nesaf Cynulliad Cenedlaethol Cymru, y bydd angen ei wneud cyn Etholiadau nesaf y Cynulliad ym mis Mai 2016.


Atodiad 2

 

Byddai’r Pwyllgor yn croesawu atebion clir a chryno i’r cwestiynau canlynol, gan gynnwys y rhesymau dros yr atebion a roddir:

  1. Pa reolau ac egwyddorion a ddylai fod yn sail i’r swyddi a’r mathau o gyflogaeth sy’n anghymwyso person rhag bod yn aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru, fel y’u nodir yng Ngorchymyn diwygiedig Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Anghymhwyso)?

[Wrth ateb y cwestiwn hwn, efallai y byddwch am ystyried i ba raddau y mae’r canlynol yn berthnasol –

·         a yw’r swydd neu’r gyflogaeth sy’n anghymhwyso yn ymwneud â rhoi cyngor i Lywodraeth Cymru neu Gynulliad Cenedlaethol Cymru;

·         ai Llywodraeth Cymru neu Gynulliad Cenedlaethol Cymru, ar y naill law, sy’n gyfrifol am benodi’r swydd neu’r gyflogaeth sy’n anghymhwyso, neu’r Ysgrifennydd Gwladol ar y llaw arall;

·         a yw’r ymrwymiad amser sy’n gysylltiedig â’r swydd neu’r gyflogaeth sy’n anghymhwyso yn cyd-fynd â bod yn aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru;

·         a fyddai natur y rôl, yng nghyd-destun y strwythur cyfansoddiadol, yn anghyson â bod yn aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru.]

 

  1. Pa newidiadau y dylid eu gwneud, os o gwbl, i’r rhestr bresennol o swyddi a mathau o gyflogaeth?

[Wrth ateb y cwestiwn hwn, efallai y byddwch am ystyried –

·         pa sefydliadau sydd wedi’u creu neu eu diddymu ers gwneud y gorchymyn diwethaf yn 2010;

·         a oes angen cynnwys sefydliadau y mae eu rolau wedi newid ers 2010;

·         a ddylid gwneud newidiadau o ran y rhai a gaiff eu hanghymhwyso’n uniongyrchol gan adran 16 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006;

·         a oes unrhyw anghysondebau y dylid ymdrin â hwy;

·         eich ateb i gwestiwn 1 uchod.]

 

  1. Pryd y dylai anghymwysiadau ddod i rym?

[Efallai y byddwch am ystyried y canlynol –

·         a ddylai hynny ddigwydd ar adeg yr enwebiad, ac felly effeithio ar bob ymgeisydd?

·         a ddylai ddigwydd erbyn diwrnod yr etholiad?

·         a ddylai ddigwydd wrth ddatgan y canlyniad?

·         a ddylai fod yn ofynnol i’r ymgeisydd llwyddiannus ymddiswyddo o unrhyw swyddi sy’n anghymhwyso cyn tyngu llw fel Aelod o’r Cynulliad, neu ymhen nifer benodol o ddiwrnodau ar ôl yr etholiad?

·         a ddylai’r swydd sy’n anghymhwyso’r ymgeisydd llwyddiannus ddod i ben yn awtomatig pan fo’n cael ei ethol neu pan fo’n tyngu llw, heb fod yn rhaid iddo ymddiswyddo’n ffurfiol?]

 

  1. A ddylai’r Cyfrin Gyngor lunio Gorchmynion Anghymhwyso yn ddwyieithog?

[Wrth ateb y cwestiwn hwn, dylid cofio bod y gorchmynion hyn yn destun cymeradwyaeth y Cynulliad Cenedlaethol ac nad yw gweithdrefnau San Steffan yn berthnasol iddynt.]

 

  1. Pa faterion eraill y dylai’r Pwyllgor eu hystyried wrth drafod y mater hwn?

Atodiad 3

Canllawiau ar gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig

 

Wrth baratoi eich cyflwyniad, cadwch y canlynol mewn cof:

 

Y wybodaeth i’w chynnwys

 

Fel canllaw cyffredinol, dylai tystiolaeth ysgrifenedig gynnwys dogfen hunangynhwysol, ynghyd â llythyr eglurhaol. Dylid cyflwyno tystiolaeth sydd mor gryno ag y bo modd (ni ddylai’r memorandwm fod yn hirach na 6 tudalen A4 o hyd).

 

Dylai’r llythyr eglurhaol nodi:

 

   enw a manylion cyswllt yr unigolion neu’r sefydliad sy’n cyflwyno’r dystiolaeth;

   a yw’r dystiolaeth yn cael ei gyflwyno ar ran sefydliad neu gan unigolyn;

   unrhyw gais i roi tystiolaeth lafar;

   unrhyw gais i’r Pwyllgor drin yr holl dystiolaeth ysgrifenedig, neu ran ohoni, yn gyfrinachol, gan nodi’r rhesymau dros y cais.

 

(Fel rheol, bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn sicrhau bod ymatebion i ymgynghoriad cyhoeddus ar gael yn gyhoeddus, ac efallai y cânt eu gweld a’u trafod gan Aelodau’r Cynulliad mewn cyfarfodydd pwyllgor.

 

Os nad ydych am i’ch ymateb na’ch enw gael eu cyhoeddi, mae’n bwysig eich bod yn nodi hynny’n glir wrth gyflwyno’r dystiolaeth, yn ogystal â’ch rhesymau dros hyn. Fodd bynnag, dylech fod yn ymwybodol na fydd eich tystiolaeth o bosibl yn dylanwadu cymaint ar drafodaethau’r Pwyllgor. Dylech hefyd fod yn ymwybodol y gellir cyhoeddi neu ddatgelu’r wybodaeth a roddir gennych yn eich ymateb i’r ymgynghoriad hwn, gan gynnwys gwybodaeth am gwmni, a hynny yn unol â Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000.)

 

Dylai’r memorandwm gynnwys y wybodaeth a ganlyn:

 

    Crynodeb o’r prif bwyntiau a wnaed yn eich tystiolaeth

    Cyflwyniad cryno i’r unigolyn neu’r sefydliad sy’n cyflwyno’r dystiolaeth, gan nodi eu maes arbenigedd

   unrhyw wybodaeth ffeithiol sydd gennych i’w chynnig y gallai’r Pwyllgor ei defnyddio i ddod i gasgliadau, neu y gellir ei chyflwyno i dystion eraill i weld beth yw eu hymateb

   unrhyw argymhellion y mae’r cyflwynydd am i’r Llywodraeth, neu rywrai eraill, eu gweithredu ac y gallai’r Pwyllgor eu hystyried a’u cynnwys yn ei adroddiad i’r Cynulliad.

   Dylai eich ymateb roi sylw i’r materion y mae’r Pwyllgor yn eu hystyried, yn arbennig y materion a nodir yn y gwahoddiad hwn i gyflwyno tystiolaeth.

 

(Dylech gymryd gofal rhag cynnwys sylwadau am faterion sydd gerbron llys barn ar hyn o bryd, neu faterion sydd ar fin mynd drwy lys barn. Os ydych yn rhagweld y bydd hyn yn digwydd, dylech drafod â Chlerc y Pwyllgor sut y gallai hyn effeithio ar y dystiolaeth ysgrifenedig y gallwch ei chyflwyno.)

 

Sut i fformadu eich tystiolaeth

 

Rhai pwyntiau i’w nodi:

 

   Dylid rhifo’r paragraffau, i gynorthwyo’r Pwyllgor wrth iddo drafod y dystiolaeth yn ystod sesiynau llafar.

   Mae croeso ichi gynnwys deunyddiau atodol gyda’ch memorandwm—er enghraifft taflenni neu erthyglau o gyfnodolion - ond dylech sicrhau bod eich memorandwm yn hunangynhwysol.

   Os ydych am ddefnyddio lliw yn eich tystiolaeth, sicrhewch fod modd gwneud synnwyr o’r dystiolaeth ar ffurf du a gwyn hefyd oherwydd gall aelodau o’r Pwyllgor benderfynu defnyddio fersiynau sydd wedi’u llungopïo yn ystod y Pwyllgor.

   Os ydych yn cyflwyno tystiolaeth ar ffurf electronig, dylai eich memorandwm fod ar fformat Microsoft Word, rich text neu PDF.